Monmouthshire CIS Homepage

Contact us
- Telephone: 01873 735015 Email: info@monmouthshirelap.org.uk

 

Search Activities

List Activities

Fluffy Mud

Lava Bottle

Magic Gloop

Playdough

Number Rhymes

Reading at home

Gingerbread People

Language Development Guide

Welsh Songs and Rhymes

 

Chwarae a Iaith


Rhaglen fer yw Chwarae a Iaith (ChAl) ar gyfer rhieni a gofalwyr yng Nghymru sydd â phlant rhwng 0 a 3 oed. Nod y rhaglen ChAl yw rhannu syniaddau a gweithgareddau dros chew sesiwn a bydd yn eich helpu I sylweddoli pa mor bwysig ydych chi i addysg eich plentyn.

Oeddech chi’n gwybod?
Mae clywed llawer o ganeuon, rhigymau
a storïau yn dylanwadu ar blant ifanc.

Mae’r misoedd a’r blynyddoedd cynharaf yn bwysig iawn – mae cofleidio, chwarae, canu a siarad I gyd yn helpu datblygu ymennydd plentyn.

Mae’n hawdd I blant ifanc ddysgu mwy nag un iaith. Gorau po gynharaf y clywant Gymraeg neu unrhyw iaith arall yn cael ei defnyddio, gan y byddant yn cychwyn adnabod geiriau a brawddegau.

Pan fyddant yn cychwyn yn yr ysgol, mae plant yn teimlo’n fwy hyderus os gallant ymuno â’r canu, gyda’u hathro a’u cyd-ddisgyblion.

Mae’r rhaglen Chwarae a Laith yn rhannu wuniaddau a gweithgareddu dros chew sesiwn. Bydd yn eich helpu I sylweddoli pa mor bwysig ydych chi I addysg eich plentyn.

Beth sy’n rhaid ei wneud?
Lle bynnag y mae grŵp o rieni neu ofalwyr yn dod at ei gilydd, gall y tîm Chwarae a Iaith gefnogi eich grŵp.

Ar gyfer pwy mae wedi’I gynllunio?
Plant a theuluoedd
Gofalwyr
Grwpiau chwarae
Canolfannau teulu
Clinigau babanod
Ti a Fi
Grwpiau rhieni a’u plant
Ysgolion Meithrin
Grwpiau cysylltu
Grwpiau magu plant
Grwpiau cymunedol
Gofalwyr plant

Pam ei fod yn bwysig?
Bod yn rhiant yw’r dasg bwysicaf yn eich bywyd a’r fwyaf heriol. Credwn mai chi yw addysgwr cyntaf a phwysicaf eich plentyn. Mae arnom eisiau rhannu rhai syniaddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i chi a’ch baban neu’ch plentyn ifanc.

I roi cychwyn gwych I’ch plentyn, beth am I chi gofleidio, siarad, canu rhigymau, adrodd stori bob dydd a chwarae gyda’ch gilydd. Mae pob un o’r rhain yn bethau y gallwch eu gwneud am ddim!

Gall manteisio ar sefyllfaoedd bob dydd newid bywyd eich plentyn. Rydych chi yn y sefyllfa orau I roi amser, symbyliad ac anwyledeb.

Pam ei bod hi’n bwysig I chi wneud hyn?
Am eich bod yn werthfawr!